Yn Ysgol Parcyrhun ein nôd yw datblygu dysgwyr hyderus ac annibynnol. Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn ein helpu ni i wneud hyn yn effeithiol.
Ar hyn o bryd mae’n ofynnol yn ôl y Cwricwlwm Cenedlaethol i bob plentyn rhwng 7 ac 13 oed astudio pedwar Pwnc Craidd - Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth a’r Pynciau Sylfaen canlynol yn yr ysgol gynradd—Hanes, Daearyddiaeth, Dylunio a Thechnoleg,Technoleg Gwybodaeth, Celf, Cerddoriaeth, Addysg Grefyddol, Addysg Gorfforol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Mae’n ofynnol addysgu Addysg Grefyddol yn yr ysgolion hefyd er nad yw’n bwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol. Dilynwn Maes Dysgu Cytunedig yr Awdurdod Lleol sy’n cwpasu pob agwedd o astudiaethau crefyddol a moesol.
Ar gyfer plant yn y Dosbarthiadau Meithrin a Derbyn mae’r gwaith yn seiliedig ar 6 Maes Dysgu y Cyfnod Sylfaen ( 7 maes ar gyfer y dosbarth Categori B) o ran Datblygiad Iaith a Llythrennedd, Datblygiad Mathemategol, Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd, Datblygiad Creadigol, Datblygiad Corfforol a Datblygiad Personol a Chymdeithasol ( a Datblygiad yr Iaith Gymraeg i’r dosbarth Ffrwd Saesneg)
Yn Ysgol Parcyrhun mae cryn bwyslais ar ddatblygiad sgiliau—Meddwl, Cyfathrebu, TGCh a Rhif—ar draws y cwricwlwm. Mae pwyslais hefyd ar bwysigrwydd y celfyddydau ac Addysg Gorfforol o ran datblygu gallu a diddordebau’r plant. Yn ystod cyfnod y plant yn yr ysgol hon, ein bwriad yw rhoi’r cyfle iddynt ymwneud ag ystod o brofiadau diwylliannol drwy fynychu perfformiadau theatr lleol, gweithio gydag artistiaid, beirdd, hanesyddwyr, chwedleuwyr neu artistiaid perfformio.
Ein hamcanion o ran Addysg Gorfforol yw i hybu gweithgareddau corfforol a ffordd o fyw yn iach, datblygu agweddau cadarnhaol,gweithio fel rhan o dîm, hybu chwarae teg, sicrhau arfer diogel a mwynhad. Cynhelir clwb Campau’r Ddraig yn wythnosol. Caiff y disgyblion cyfleoedd i fynychu cyrsiau preswyl yng Nghyfnod Allweddol 2: Gwersyll yr Urdd Llangrannog a Canolfan Pentywyn