Mae Ysgol Parcyrhun yn ysgol Categori A/B yn unol â pholisi iaith y Sir. Dysgir y plant yn y Ffrwd Gymraeg yng Nghyfnod Allweddol 1 drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r plant yn y Ffrwd Gymraeg yng Nghyfnod Allweddol 2 yn dysgu’r Gymraeg fel iaith gyntaf a dysgir y pynciau sylfaen trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r plant yn y Ffrwd Saesneg yng Nghyfnod Allweddol 1 a 2 yn dysgu’r Gymraeg fel ail-iaith. Rhoddir pwyslais ar ddatblygu sgiliau dwyieithrwydd bob plentyn ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol.

Beth yw manteision Addysg Gymraeg?
Cliciwch ar y ddolen isod i ddarganfod mwy!
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/addysg-gymraeg/Pages/default.aspx