Grant Datblygu Disgyblion
Datganiad Grant Datblygu Disgyblion
Dyrennir y Grant Datblygu Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.
Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:
- nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
- cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
- monitro a gwerthuso effaith adnoddau
Yn 2019-20 rhoddwyd i Ysgol ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £43,700, Grant Amddifadedd Blynyddoedd Cynnar £9,100 – Cyfanswm £52,800
Yn Ysgol Parcyrhun mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a'i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i:
- wella dysgu ac addysgu drwy ddarparu rhaglen gefnogi- sy’n cynnwys cynorthwywyr dysgu ag arbenigedd yn y meysydd isod i arwain grwpiau ffocws ac ymyrraeth.
- darparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy fel Chwarae Cadarnhaol, CHATT, Dyfal Donc Darllen, Hwb Ymlaen Mathemateg, Mathemateg Mwy Abl a Thalentog, RWI, Llythrennau a Synau/ Tric a Chlic, Iaith a Lleferydd
- darparu hyfforddiant penodol o safon uchel i staff ysgolion, yn cynnwys ar yr uchod a strategaethau ychwanegol
- cyflwyno a defnyddio systemau olrhain data i nodi anghenion dysgwyr, targedu ymyraethau a monitro effaith.
- gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion eraill, y gymuned a sefydliadau eraill sy’n cynnwys arbenigwyr a chymorth meddygolwella presenoldeb y grŵp targed drwy ddefnyddio systemau monitor ac ymyraethau.
- datblygu capasiti arweinyddiaeth i flaenoriaethu’r effaith ar ansawdd y ddarpariaeth a’r canlyniadau i gefnogi dysgwyr a’u teuluoedd.
Mae ein cynllun manwl sy’n cynnwys manylion mewn perthynas â sut rydym yn gwario’r grant ar gael gan y Pennaeth.